Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Meeting Venue:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Meeting date:

Dydd Iau, 8 Mai 2014

 

 

 

Meeting time:

09.15 - 15.13

 

 

 

This meeting can be viewed on Senedd TV at:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_08_05_2014&t=0&l=cy

 

 

Concise Minutes:

 

 

 

Assembly Members:

 

David Rees AC (Cadeirydd)

Leighton Andrews AC

Rebecca Evans AC

Janet Finch-Saunders AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Lynne Neagle AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC

 

 

 

 

 

Witnesses:

 

Yr Athro Huw Griffiths

Professor John Watkins

Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ifan Evans, Healthcare Innovation

Christine Morrell, Acting Chief Scientific Adviser

Stuart Geddes, Cyfarwyddwr, British Dental Association Welsh Council

Peter Nicholson, Royal Glamorgan Hospital

Karl Bishop, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Professor Stephen Richmond, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bryan Beardsworth, Hywel Dda University Health Board

Warren Tolley, Powys University Health Board

 

 

 

 

 

Committee Staff:

 

Llinos Madeley (Clerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Victoria Paris (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

</AI1>

<AI2>

2    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

</AI2>

<AI3>

3    Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried cwmpas ymchwiliadau posibl i sylweddau penfeddwol cyfreithlon, caethiwed i feddyginiaethau ar bresgripsiwn a fflworideiddio dŵr.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu o ran craffu ar ôl deddfu mewn perthynas â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

 

3.3 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu o ran craffu ar ôl deddfu mewn perthynas â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

 

3.5 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, ac a dderbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:

 

Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwahodd y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd AS i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi tystiolaeth, er mwyn i'r Pwyllgor graffu ar y materion, y themâu a'r casgliadau ynghylch gwasanaethau GIG Cymru a ddaw i'r amlwg fel rhan o'i gwaith i Lywodraeth y DU ar gwynion am y GIG yn Lloegr.

 

3.5 Dyma ganlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Elin Jones

Darren Millar

Janet Finch-Saunders

Lindsay Whittle

Kirsty Williams

Leighton Andrews

Rebecca Evans

Lynne Neagle

Gwyn Price

David Rees

0

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Felly, gwrthodwyd y cynnig.

 

 

 

</AI3>

<AI4>

4    Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 15

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

</AI4>

<AI5>

5    Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 16

5.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

 

</AI5>

<AI6>

6    Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd Peter Nicholson i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am nifer y bobl a gaiff eu hatgyfeirio flwyddyn yn gynnar a blwyddyn yn hwyr at wasanaethau orthodontig arbenigol, a rhagor o dystiolaeth i ategu'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â chynnydd yn nifer y darparwyr mawr corfforaethol sy'n cynnig gwasanaethau orthodontig arbenigol.

 

 

</AI6>

<AI7>

7    Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

7.1     Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.2 Cytunodd Warren Tolley i ddarparu data i'r Pwyllgor ar y cyfraddau o ran triniaethau orthodontig arbenigol nad cynhaliwyd a'r effeithiau yn sgîl hynny.

 

7.3     Cytunodd Karl Bishop i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynglŷn â'r canlynol:

·         Nifer yr apwyntiadau yn yr ysbyty am wasanaethau orthodontig arbenigol a gollwyd;

·         Y trefniadau sydd ar waith o ran darparu gwasanaethau orthodontig arbenigol i unigolion a atgyfeiriwyd yn wreiddiol i gael eu hasesu a'u trin yn ardal bwrdd lleol arall.

 

</AI7>

<AI8>

8    Papurau i’w nodi

8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth gan y Bwrdd Arferion Gorau ac Arloesi ym maes Iechyd a Lles.

 

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>